Cantorion Gwalia (Abertawe)
|
|
|
|
|
1970 Cynhaliwyd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar 4 Chwefror er mwyn, wedi llawer o drafod bywiog, pasio’r cynnig i ehangu’r côr i uchafswm o 25 o aelodau - watch out Treorci!! Ar 1 Ebrill symudon ni “dros y bont” i Fethesda, Llansawel, sef y gyngerdd gyntaf i mi ei methu ers sefydliad y côr - roeddwn i yn yr ysbyty - AH!! - arweiniodd Edmond John. Mae’r gyngerdd hon hefyd yn enwog yn hanes y côr am fynediad enwog Chris Shaw ar i’r llwyfan o gefn y neuadd yng nghanol Gwedi’r Arglwydd!! Bu bron i Edmond gael “thrombo”. Rydym ni bellach yn dechrau teithio. Mai: Clwb Golff Penoir, Aberhonddu, a 30 Awst: ein cyngerdd gyntaf yn y Santes Fair, Dinbych-y-pysgod, ble’r canom i’n cynulleidfa fwyaf hyd yn hyn – 1,000 o bobl. Dyna ddangos ein cheek bryd hynny drwy agor y gyngerdd â “Arise O Sun” Doris Arnold gydag ond 18 aelod yn canu. Roedd e’n wych!! Ym mis Rhagfyr buodd ein hymrwymiad “2 mewn 1 dydd” cyntaf. Ysbyty yng Nghaerfyrddin yn y prynhawn wedi’i ddilyn gan gyngerdd yn Eglwys hardd y Santes Fair, Caeriw, sy’n dyddio o’r unfed ganrif ar bymtheg. Dilynwyd hyn gan ymborth godidog yn neuadd yr eglwys â’i thân agored mawr. Yr unig beth i andwyo’r diwrnod oedd y mygdarthau disel yna arllwys i mewn i’n “bws moethus” ar y ffordd adref. Er mwyn i chi gael syniad o ba mor fregus yr oedd sefyllfa’r côr bryd hynny gyda chyn lleied o aelodau, yn ein cyngerdd yn y Neuadd Rechabaidd, Tregŵyr, fis Rhagfyr, arweiniodd Edmond John tra fy mod i’n canu Bariton. Roedd hyn o achos mai ond dau fariton oedd ar gael y noson honno. Mae’n rhaid i mi ddweud mai’r noson honno oed dy gorau i mi erioed glywed y baritonau’n canu!! Mewn gwirionedd roedd nifer o aelodau’r côr yn arfer symud rhwng lleisiau gwahanol bryd hynny yn dibynnu ar bwy oedd ar gael. Roedd rhaid bod yn hyblyg bryd hynny.
1971 Ar 23 Ebrill cynhaliom ein hail gyngerdd flynyddol ym Mhafiliwn Patti, Abertawe. Ein cantores gwadd oedd Janet Rees o Lanelli, cantores/gitarydd 14 oed o enwogrwydd “Opportunity Knocks”, a chadeirydd y noson oedd ein llywydd, Alan Williams, AS Gorllewin Abertawe. Mynychodd 450 o bobl gan dalu 25c yr un am eu tocynnau. Cyfanswm cost y gyngerdd oedd £110.74 gan wneud elw o £53.89 – arian mawr. Tua’r adeg hon y cawsom ein clyweliad teledu cyntaf gyda HTV yng Nghaerdydd – roedd e’n drychineb. Dydw i erioed wedi gweld grŵp o ddynion mwy digalon erioed na phan gerddon ni allan o’r stiwdio. Fodd bynnag, achubwyd y noson gan berfformiad enwog Ken Hutin mewn tafarn ar gyrion Caerdydd. Stori enwog y “Tŷ Bach” oedd uchafbwynt y noson. Ym mis Medi bu antur fawr gyntaf y côr. Gwahoddwyd ni i ganu mewn gwald tramor – Lloegr. Cawsom gyngerdd hynod lwyddiannus yn Fforwm y Carlton, Nottingham, nos Sadwrn, 25 Medi. Y bore canlynol bu canu llawn cystal yn yr Eglwys Fethodistaidd, Carlton. Hyn er bod y mwyafrif o’r côr yn dioddef â phennau mawrion. Ar 14 Hydref, mewn cyngerdd yn Eglwys y Bedyddiwr yn y Mwmbwls, ymunwyd y côr am y tro cyntaf gan ferch ifanc a oedd i enhance nifer o’n cyngherddau am flynyddoedd i ddod – Hazel Howells. Roedd hi mor boblogaidd ar unwaith yr ymunodd â ni am chwe chyngerdd rhwng Hydref a Rhagfyr y flwyddyn honno.
1972 Mae’n ddiddorol nodi i’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a gynhaliwyd ar 20 Ionawr fod yn fforwm ar gyfer trafodaeth hir a dwys ar “gysondeb cyngherddau”. Ni ddatryswyd y mater bryd hynny ac rwy’n amau y caiff ei ddatrys o gwbl. Bu newid mawr o ran gweinyddiaeth y côr ym 1972. Penodwyd Malcolm Herbert fel ysgrifennydd. Cafodd Malcolm effaith yn syth ac roedd y côr yn llawer mwy trefnus gyda hyd yn oed awgrym o effeithlonrwydd yn dechrau ymddangos. Fel y gwyddoch, mae Malcolm wedi bod yn swydd byth ers hynny ac yn dal i gynnal ei ddyletswyddau’n frwdfrydig ac effeithlon. Mae person o’r fath yn amhrisiadwy i unrhyw sefydliad. Yr eitem olaf i’w hadrodd ar y bennod benodol hon yw’r Gyngerdd Flynyddol lwyddiannus dros ben a chynhaliwyd yng Nghapel Jerwsalem, Fforestfach, ar 28 Ebrill. Roedd Hazel Howells gyda ni ar yr achlysur hwn wrth gwrs ac am y tro cyntaf yn hanes y côr defnyddiom ni gantor proffesiynol - Richard Rees, y bas adnabyddus o ogledd Cymru.” Parhaodd Bryan â’i atgofion ym mis Medi 1989 yn rhan 3: "Ym mis Gorffennaf rhoesom gyngerdd yn y Ceinewydd, Sir Gâr. Perfformiom hefyd yn Horton yr un mis, pris y tocynnau oedd £5.25. Ym mis Medi cafwyd ail ymweliad y côr â thiroedd “tramor”. Fe’m gwahoddwyd unwaith eto i ganu yn Nottingham. Ein hunawdwyr ar yr achlysur hwn oedd Hazell Howells a’r tenor enwog o Rwsia, Vernon Simons. Roedd yn drip cofiadwy ac roedd poblogrwydd y côr awr yn lledaenu’n bell. Mae amlbwrpasedd wedi bod yn un o gryfderau’r Gwalias erioed, ac yn Rhagfyr 1972 cawsom wahoddiad i ganu mewn bar mitzvah yng Ngwesty’r Ddraig, Abertawe. Bydd y sawl ohonoch a oedd yn bresennol yn sicr yn cofio’r champagne a roddwyd i ni. Doedd dim gwydrau, felly bu rhaid i ni yfed yn syth o’r poteli.
1973 Ar 31 Ionawr cynhaliwyd ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Roedd hwn yn ddigwyddiad pwysig yn hanes y côr oherwydd wedi trafodaeth hir a manwl, er gwaethaf rhai gwrthwynebiadau, pleidleisiwyd o blaid dechrau cystadlu. Fodd bynnag, nid oedd hyn i gymryd ffrwyth am ddwy flynedd a hanner arall, ond bydd mwy am hynny nes ymlaen. Ar 4 Ebrill cynhaliom ein cyngerdd flynyddol yng Nghapel Jerwsalem, Fforestfach. Unwaith eto Hazell Howells oedd ein soprano gwadd ac y tro hwn cawsom y pleser o gwmni Dai Jones Llanilar fel ein tenor gwadd. Rwy’n cofio’r pleser cafodd y gynulleidfa o’u deuawd Hywel a Blodwen yn dda. Ym mis Mai canom yn Eglwys San Pedr, Llanelli, a mis Gorffennaf yn Llandrindod. Hefyd ym mis Gorffennaf, lluniodd y côr “Rheolau Iwnifform” newydd. Ychydig iawn y mae’r rheolau hynny wedi newid mewn 16 mlynedd, heblaw am wisgo “sanau llwyd tywyll” yn esblygu i “sanau du”, siŵr o fod yn ystod cyfnod Don Frame fel Rheolwr Llwyfan!! Er gwaethaf y ffaith ein bod bellach yn cynnal cyngherddau mwy mawreddog nis anghofiwn ein hen ffrindiau erioed, a heb wneud hyd heddiw, ac ym 1973 perfformiom unwaith eto gyngherddau elusen ar gyfer Brawdoliaeth Hafod a Phensiynwyr Pontardawe.
Cantorion Gwalia, ym 1973 yng Nghlwb y Gwasanaeth Sifil Ym mis Tachwedd cafodd rhyw elusen y syniad gwych o gyfuno côr meibion â grŵp pop. Cawsom ein gwahodd – a phrysuraf i ychwanegu fel y côr. Roedd yn drychineb, gydag arddegion yn rowlio caniau cwrw gwag i lawr yr ale wrth i ni ganu a glanio wrth draed Della Binnig tra’i bod yn cyfeilio. Canom ddwy eitem – yn gyflym iawn! – saethu o’r llwyfan a mynd adref. Serch hynny roedd yn “brofiad” newydd arall ac yn rhan o’r broses ddysgu. Fel ym mhob blwyddyn cynt a phob blwyddyn ddilynol, bu 1973 yn flwyddyn prysur iawn i’r Gwalias.
1974 Yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar 23 Ionawr ffurfiodd y côr ei Bwyllgor Codi Arian cyntaf. Penderfynom ei fod yn hen bryd i ni gael tipyn o arian wrth gefn oherwydd ein bod wrthi’n ystyried creu’n record gyntaf a thaith tramor posib. Aelodau cyntaf y pwyllgor pwysig hwn oedd Islwyn Bennett, Viv Williams a Don Childs. Ar 3 Ebrill canom unwaith eto yng Nghapel Jerwsalem, Fforestfach, yn ein cyngerdd flynyddol. Roedd Hazell Howells yn gantores gwadd ac roedd Dai Jones Llanilar wedi’i fwcio. Ond, yn anffodus, fe’i cymerwyd yn dost a chamodd Nigel Hopkins, Treforys, i’r adwy ar y funud olaf un. Roedd y gyngerdd a chynhaliwyd ar 14 Ebrill yn achlysur hiraethus i’r côr, ac i mi yn benodol, am iddi gael ei chynnal yn Eglwys St. Jude, Abertawe. O Gymdeithas Operatig St. Jude y tarddodd y côr ac yn yr eglwys hon y ces i fy magu ac ennill y mwyafrif i’m profiad a gwybodaeth gerddorol - dim sylwadau clyfar os gwelwch yn dda!! Ar 8 Mehefin canom o flaen cynulleidfa o 800 o gynrychiolwyr yn y Neuadd Brangwyn. Yr achlysur oedd Cynhadledd Genedlaethol Menywod Llafur ac roedd nifer o ASau Sosialaidd blaenllaw yn bresennol felly doedd ein blaseri glas ddim yn wisg ddelfrydol ar gyfer yr achlysur ond doedd dim byd arall gennym ni i’w gwisgo felly doedd dim dewis ganddynt. Hwn oedd y digwyddiad enwog pan gafodd Neil Kinnock ei ddal gan un o jôcs ymarferol Don Childs. Cafodd Neil Kinnock ei ddal yn llwyr ac mae Don yn dal i siarad am y noson pan ddywedodd Prif Weinidog Prydain Fawr posib y dyfodol wrtho am “fynd i ffwrdd a rhoi llonydd iddo” neu eiriau o’r un ystyr!!! Ym mis Mehefin aeth y côr i’r stiwdio recordio am y tro cyntaf. Recordiom ein record long playing cyntaf yn Stiwdio’r BBC ar Heol Alexander, Abertawe. Bydd y sesiwn recordio ei hunan yn gofiadwy oherwydd i ni orfod cymryd ein hesgidiau bant am fod y meicroffon yn pigo lan rhai a oedd yn gwichian. Er gwaethaf y ffaith mai ond 20 ohonom oedd yn y côr ar y pryd roedd y fenter yn llwyddiant ysgubol ac mae rhai eitemau o safon uchel iawn ar y record honno. Felly unwaith eto roedd y côr yn datblygu ac yn symud ymlaen. Cynhaliwyd Cyfarfod Cyffredinol Arbennig ar 2 Hydref ble, wedi trafodaeth hir a bywiog, penderfynwyd cynyddu uchafswm cryfder caniataol y côr o 25 i 30. Penderfyniad pwysig iawn. Roedd un amod, fodd bynnag; roedd gormod o faswyr gennym ni eisoes felly dim ond tenoriaid ychwanegol byddai’n ymuno fel aelodau newydd. 1974 – blwyddyn lwyddiannus a phrysur arall, a’r côr yn parhau i symud ymlaen.
1975 Dechreuodd 1975 yn wael i’r côr. Roedd y Blaid Lafur leol wedi trefnu digwyddiad i ddathlu’r ffaith bod Alan Williams, AS gorllewin Abertawe, wedi bod “yn y tŷ” am ddeng mlynedd. Gwahoddwyd ein gwragedd hefyd ond fe’u triniwyd yn wael iawn o ddechrau’r noson. Fe’m ffieiddiwyd, dywedom ni hyn wrth y trefnwyr a cherdded allan heb berfformio. Profiad bach arall yn yr ysgol fywyd. Yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, a gynhaliwyd ar 22 Ionawr, ymddeolodd Edmond John fel Cadeirydd wedi gwneud swydd wych a, bedair blynedd. Penodwyd Ken Hutin fel Cadeirydd newydd Cantorion Gwalia. Gwnaethpwyd rhai newidiadau mawr eraill i’r cyfansoddiad yn y cyfarfod hefyd a phenodwyd Derek Turner fel Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus cyntaf y côr. Cytunom hefyd i brynu amlenni a phapur pennawd i’r côr - am broffesiynoldeb!! Yn ein Cyngerdd Flynyddol yng Nghapel Bethlehem, Fforestfach, ar 7 Mai, canodd y côr â chantor “enwog” am y tro cyntaf. Roedd Wynford Evans, tenor o Abertawe, yn gwneud enw iddo’i hun ar y pryd ac ar drothwy gyrfa addawol. Mae Wynford bellach wrth gwrs yn denor byd-enwog. Ni anghofiaf fyth mohono’n “dragio” ar ei Wdbeins yn festri’r capel cyn canu ac yn dweud y dylai mewn gwirionedd geisio roi’r gorau iddynt. Mewn Cyfarfod Cyffredinol Arbennig a gynhaliwyd ar 18 Mehefin sefydlodd y côr yr egwyddor o honorariwm ar yr arweinydd a’r cyfeilydd. Gosodwyd y swm yn £30 yr un y flwyddyn. Roedd y staff cerddorol bellach yn “broffesiynol”. Ar 2 Awst aethom ar ymweliad cofiadwy i Lanbadarn Fawr, Llandrindod, ble rhoddom gyngerdd mewn eglwys leol fel rhan o’u Gŵyl Flodau. Roedd yr eglwys wedi’i foddi mewn blodau ac roedd hi’n noson mor dwym rhoddais ganiatâd i’r bois ganu yn eu crysau - digwyddiad nas clywid amdano gynt. Daeth y daith hyfryd o ben gyda swper salad cig oer mewn ysgubor wedi’i oleuo gan lampau olew ar nos falmaidd o Awst. Nawr carreg filltir yn hanes y côr. Wedi cytuno rhyw ddwy flynedd a hanner ynghynt i ddechrau cystadlu, felly cystadlom yn yr Eisteddfod yn Nhrefyclo, ar 4 Hydref. Roedd chwe chôr yn cystadlu. Roedd gennym 18 o aelodau ar y llwyfan; roedd gan bob côr arall rhwng 40 a 56 o aelodau. Daethom yn bedwerydd gydag 172 o farciau gyda’r enillwyr, Côr Meibion Casnewydd a’r Cylch yn sgorio 178 o farciau. Felly o dan yr amgylchiadau roeddem ni wedi gwneud yn dda. Canom Salm 23, y darn gosod, a Kalinka (unawdydd - Vernon Simons) fel y darn hunanddewis. Dysgom ni, a fi yn bersonol, lawer o’r gystadleuaeth gyntaf honno. Crynhowyd pa mor “wyrdd” yr oeddwn i bryd hynny gan y digwyddiad pan gyrhaeddom ni a gofynnodd un o’r stiwardiaid i mi: “Oes angen ymarfer arnoch chi?”, ac atebais i “Na, dim diolch, ni’n gwybod y ddau ddarn yn dda”. Edrychodd arnaf yn od a oedd yn dweud yn glir, ond heb siarad y geiriau, “am dwpsyn hurt”!! Wedi cytuno ynghynt yn y flwyddyn i ystyried cynnig ymweliad i Mannheim, Gorllewin yr Almaen. Mewn Cyfarfod Cyffredinol Arbennig a gynhaliwyd ar 2 Hydref, cytunwyd, wedi sawl mis o ymchwil gan bwyllgor arbennig, i wrthod y cynnig. Roedd gormod o broblemau. Dyw rhai pethau byth yn newid!
Y côr, yn y Clwb Gwasanaeth Sifil ym 1975 Yn olaf, Dilwyn Williams oedd ar frig y gofrestr presenoldeb gan fynychu 100% o’r ymarferion. Vernon Simons oedd yn ail gyda record o ond 98% – collodd un ymarfer (gan ymddiheuro i’r Arweinydd wrth gwrs). Felly roedd 1975 yn flwyddyn gofiadwy arall. Roedd Cantorion Gwalia hyd yn oed yn fwy poblogaidd ac adnabyddus yn awr ac roedd galw mawr yn parhau i fod amdanynt ar gyfer cyngherddau."
Ym mis Medi 1991, parhaodd Bryan Myles â rhan 4 o hanes y côr:
“5 Rhagfyr 1975 oedd diwrnod y gyngerdd “HOY” enwog i bensiynwyr Pontardawe. Roedd unawd Don Childs yn wych gan roi’r holl “HWYL” y gallai unrhyw arweinydd ofyn amdani. Mae’r stori’n rhy hir i’w hadrodd yma ond gall unrhyw aelodau newydd sydd eisiau gwybod y manylion ofyn i unrhyw un o’r aelodau hŷn a fydd yn fodlon, rwy’n siŵr, adrodd y stori yn ei hysblander cyfan.
1976 O ran agwedd gerddorol y côr ym 1976, yn gyntaf, dathlodd y côr ei ben-blwydd yn ddeg oed drwy gynnal ei Gyngerdd Flynyddol yng Nghapel Ebeneser, Stryd Ebeneser, Abertawe, ar 20 Mai. “Fielded” y côr 25 o gantorion, defnyddiom ein hunawdwyr ein hunain - Vernon Simons, Laurence George a Terry Smith - a chafwyd unawd organ gan Clive Williams hefyd a benodwyd yn gynharach yn y flwyddyn fel Dirprwy Gyfeilydd y côr. Cynhwysom rhai pethau gwahanol yn y rhaglen hefyd- deuawd piano gan Della Binning a Clive Williams a chanodd Pumawd o Gantorion (ni allaf gofio pwy oedden nhw) dair eitem. Arweinydd y noson oedd y diweddar y Parch. O. Tregelles Williams. Roedd y gyngerdd yn llwyddiant mawr a gwnaethpwyd elw o £280.68 i’r côr - llawer o arian ym 1976. Ond chwe diwrnod cyn y gyngerdd hon canom i Gyngor Llafur Cymru yn y Brangwyn. Arweiniodd Derek Turner - roeddwn i ffwrdd ar fusnes. Y gyngerdd ar gyfer Clwb Dros 60 Llandeilo Ferwallt oedd y tro cyntaf i Clive Williams gyfeilio’r côr am gyngerdd lawn. Della gyfeiliodd ar gyfer yr unawdwyr. Dyma a gytunwyd yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol pan benderfynodd Della y byddai’n rhoi’r gorau i gyfeilio o fewn 12 mis. Cynhaliom nifer o gyngherddau unwaith eto ym 1976 a Derek Turner oed dyn arwain ar gyfer dwy ohonynt am fy mod i i ffwrdd ar fusnes yn UDA a Chanada. Daeth y flwyddyn i ben ar nodyn uchel gyda “thaith tramor” cyntaf y côr - penwythnos (4-5 Rhagfyr) yn Nottingham. Cynhaliom gyngerdd ar y nos Sadwrn yn Rushcliffe, Nottingham, gyda Hazell Howells fel unawdydd. Yna fore Sul canom dair eitem yng ngwasanaeth boreol Eglwys St. Giles, gorllewin Bridgeford, yr Eglwys yr oeddwn i’n ei mynychu pan oeddwn yn byw’n Nottingham. Roedd y penwythnos yn llwyddiant ysgubol a gwnaethom lawer o ffrindiau a chefnogwyr newydd. Ar yr ochr weinyddol, cynigodd Tony Wright, yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a gynhaliwyd ar 18 Chwefror, sefydlu is-bwyllgor i geisio gwella recriwtio – be’ sy’ wedi newid? Penderfynwyd hefyd y dylid llunio amodau gorchwyl ar gyfer pob swyddog ac aelod o’r côr ac y dylid codi tanysgrifiad blynyddol y Clwb Gwasanaeth Sifil o £3.00 i £3.15. Mewn Cyfarfod Cyffredinol Arbennig a gynhaliwyd ar 1 Medi cytunwyd i wahodd y Cyfarwyddwr Cerddorol i fod ar y Pwyllgor oherwydd teimlwyd “y byddai o fudd i’r côr yn gyffredinol ac y byddai penderfyniadau’n cael eu gwneud yn gynt.” Penderfynwyd hefyd i olynu Alan Williams aS fel Llywydd y côr. Gwahoddwyd Trevor Lewis i fod yn Llywydd newydd, gwahoddiad yr oedd yn ddiolchgar i dderbyn. Yn y Gyngerdd Flynyddol yn Langland Court Hotel roedd roeddem 6c yn brin ar y noson – beth uffern oedd y Trysorydd Roger Francis yn ei wneud?!!! Presenoldeb uchaf yn 1976 - Hugh Jones - 99% Roger Francis - 97% Mal Herbert - 97% Dil Williams - 97% Dyna ni am 1976!!
1977 Ar benwythnos 5-6 Mawrth ymwelom â’r Gymdeithas Gy6mraeg yn Bridgenorth am y tro cyntaf. Roeddent yn cynnal cinio Gŵyl Dewi i ddathlu eu pen-blwydd yn 21. Rhoddom gyngerdd lawn ar y nos Sadwrn ac aros dros nos yng Ngwesty’r Falcon lle’r oeddem am ddarganfod, yn oriau mân y bore, dalentau cudd Gerald East ar y pianoforte. Ar ddydd Iau, 14 Ebrill, cynhaliom gyngerdd fer yn y Brangwyn i Gymdeithas Gefeillio Abertawe/Mannheim. Cynhaliwyd ein Cyngerdd Flynyddol ar ddydd Iau, 26 Mai eleni, yng Nghapel Bethlehem, Cadle. Ein hunawdydd gwadd oedd Doreen O’Neill, ac Arweinydd y noson oedd Trevor Lewis, wrth gwrs. Eleni dechreuodd y côr ddifyrru cynadleddau yn y brifysgol hefyd. Rwy’n cofio’n dda'r gyngerdd yn Eglwys San Pedr, Coced, ar ddydd Mercher, 5 Hydref - tri thenor top oedd yn y gyngerdd - dyw rhai pethau byth yn newid! Camodd Alan Fewster i’r adwy fel cyfeilydd am nad oedd Clive ar gael. Yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, a gynhaliwyd ar 9 Chwefror, ymddeolodd Ken Hutin fel Cadeirydd. Etholwyd Phil Gittoes, a oedd newydd ddychwelyd o fyw’n Hong Kong, fel y Cadeirydd newydd am yr ail dro. Roedd hi’n bleidlais agos a threchodd Vernon Simons o un bleidlais yn unig - dihangfa lwcus i Vernon! Yn y cyfarfod cytunodd y côr, mewn egwyddor, i ystyried cystadlu, er ni wnaeth hyn ddwyn ffrwyth mewn gwirionedd am ryw 15 mis. Achosodd y pwnc cadw seddau yn y gyngerdd flynyddol i wragedd/ffrindiau dipyn o ffrae. Cafodd Islwyn Bennet, sy’n byw yn Awstralia yn awr, broblem gyda hyn yn y gyngerdd flynyddol ddiwethaf. Mewn Cyfarfod Cyffredinol Arbennig a gynhaliwyd ar 4 Mai penderfynwyd rhoi Aelodaeth Am Oes Anrhydeddus o’r côr am wasanaethau eithriadol i’r côr. Gwnaethpwyd tri chynnig yn syth:- Enw Canlyniad Della Binnig IE Ambrose Miles NA Remaining Founder Members NA Felly daeth Della Binnig yn Aelod Am Oes Anrhydeddus cyntaf y côr. Roedd recriwtio, yn enwedig tenoriaid, yn bwnc llosg o hyd. Uchafbwynt y flwyddyn oedd recordio’n hail LP (yr un masnachol cyntaf) ar Label Cambrian, yn dwyn y teitl “The Magic of their Singing”. O ystyried pa mor fach yw’r côr roedd yn record hyfryd ac yn llwyddiannus iawn. Ystyriwyd bod y clawr unigryw gyda llun o ddarn o Swansea China yn, ac yn dal i fod, yn tasteful iawn ac up-market. Presenoldeb uchaf 1977 - Dill Williams - 100% Gerson Williams - 98% Tony Wright - 98% Mal Herbert - 97% Viv Williams - 97%
1978 Ac felly i mewn i drydedd flwyddyn ar ddeg y côr – 1978 Ar ddydd Sadwrn, 20 Mai, cymeron ran yn ein cystadleuaeth ddifrifol cyntaf, sef cystadleuaeth Gorawl Bragwyr Cymru yng Nghaerfyrddin. Cystadlodd pum côr - Gwalia, Dinefwr, Dyffryn Tywi, Caerfyrddin a Dynfant. Aeth dau gôr drwyddo i’r rownd nesaf - Gwalia a Dynfant - roeddem ni ar ein ffordd!! Ein rhaglen y noson honno - Song of the Jolly Roger - Myfanwy - Kalinka - The Whiffenpoof Song - Non Nobis Domine Y beirniad oedd y diweddar Haydn James o Abertawe. Am ei fod eisiau dilyn ei astudiaethau cerddorol, ymddiswyddodd Clive Williams fel cyfeilydd y côr, a phenodwyd Beverly Sanders, 17 oed, fel ein cyfeilyddes newydd. Cymerodd rhan yn ei chyngerdd gyntaf i henoed Llandeilo Ferwallt ar 10 Gorffennaf. Ym mis Gorffennaf bu rownd gynderfynol Cystadleuaeth Gorawl Bragwyr Cymru yn y Barri. Gwalia a Chôr Meibion Y Barri aeth drwodd i’r rownd derfynol ym mis Medi. Cymerodd saith côr rhan yn y rownd derfynol a gynhaliwyd ar 16 Medi gan gynnwys rhai “corau mawr” fel Dynfant a Froncysyllte. Dynfant enillodd y wobr gyntaf o £1,000. Roedd hyn yn arian mawr iawn yn y maes cystadleuol bryd hynny. Alan John oedd y beirniad a bu mwy neu lai iddo wrthod Gwalia fel Parti Glee yn unig, ac rwy’n siŵr ei fod yn synnu ein bod yn cystadlu yn erbyn corau mor addawol. Mewn blynyddoedd i ddod byddai’n newid ei farn amdanom ni’n llwyr. Dydd Mercher, 11 Hydref, dychwelom i’n man geni a rhoi cyngerdd yn Eglwys St. Jude, Mount Pleasant, Abertawe – roedd yn noson hiraethus iawn i sylfaenwyr y côr. Yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a gynhaliwyd ar 8 Chwefror cofnodwyd ein bod wedi bod yn llwyddiannus o ran recriwtio'r flwyddyn flaenorol pan wnaethom recriwtio 4 aelod newydd. Yn ystod y cyfnod hwn nid oedd ein perthynas â Phwyllgor y Clwb Gwasanaeth Sifil ar ei orau, felly penderfynom “take the bull by the horns” a datrys rhai materion rhwng y ddau bwyllgor. Yn y cyfarfod hwn gwnaethpwyd newidiadau i’r cyfansoddiad o ran maint y côr. Teimlwyd bod “mwyafswm o 30” yn rhy gyfyngol felly newidiwyd i “tua 30” - ddim yn derfynol ond roeddwn oll yn deall yr ystyr. Yn y cyfarfod hwn trafodwyd eitem yn dwyn y teitl “Dillad Achlysurol” - na, nid crysau T - SIWMPERI CÔR. Penderfynwyd bwrw ati a rhai misoedd yn ddiweddarach prynom rhai gyda chymorth rhodd o £98.48 gan adran y menywod tuag at y costau; da iawn ferched - rydych chi wedi bod yn gymorth mawr i ni ar hyd y blynyddoedd. Presenoldeb Uchaf 1978 - Roley Morris - 100% Roy Thomas - 100% Dil Williams - 100% Marshal Clement - 98% Edmond Johns - 98% Hugh Jones - 98% Noder – 3 tenor top yn y chwe brig!!! A dyna 1978.
1979 Roeddem yn cystadlu unwaith eto yn gynnar ym 1979. Yn rownd gyntaf Cystadleuaeth Bragwyr Cymru cystadlodd pum côr; Dynfant Dinbych-y-Pysgod a Gwalia aeth drwodd i’r rownd nesaf. Cynhaliwyd Cyngerdd Flynyddol eleni unwaith eto yng Nghapel Bethlehem Chapel, Cadle. Yr unawdydd oedd Hazell Howells, gyda Clive Williams yn organydd gwadd, ac arweinydd y noson oedd Ambrose Miles. Roedd côr o dri deg ar y llwyfan y noson honno. Ar ddydd Iau, 5 Mehefin perfformiom unwaith eto yn Neuadd y Brangwyn, yng Nghynhadledd CEE y Blaid Lafur y tro hwn; erbyn hyn roeddwn yn ystyried newid ein blaseri i rai COCH!! Ar ddydd Llun, 2 Gorffennaf dychwelom i’r brifysgol unwaith eto i ddifyrru cynhadledd ryngwladol arall. Canodd y côr mewn cyngerdd gyda band pres am y tro cyntaf ddydd Iau, 19 Gorffennaf, gyda Band Pres Penclawdd. Roedd y gyngerdd yn rhan o Ŵyl Gŵyr yn Eglwys yr Holl Saint yn Ystumllwynarth. Dyma oedd y tro cyntaf o lawer i ni weithio gyda Band Pres Penclawdd yn y blynyddoedd oed di ddod. Ar 9 medi aethom i’r Santes Fair yn Ninbych-y-pysgod ar gyfer ein hymweliad blynyddol, ble’r oeddem wedi bod yn mynd ers sawl blwyddyn. Bryd hynny, fodd bynnag, dim ond un cyngerdd yn y nos oedd. DYDD SADWRN – 6 HYDREF, 1979 – CARREG FILLTIR. Y côr yn cystadlu am y tro cyntaf yn y gystadleuaeth côr o dan 40 o leisiau yn Eisteddfod semi-national y Glowyr, Porthcawl. Darn prawf - Domine Non Sum Dignus Hunanddewis - Comrades in Arms Beirniaid - Arthur V. Williams - Julian Moyle - Alan John (cofiwch beth ddywedodd ym 1978!)
Canlyniad - Côr Marciau Gwalia 90 Bontffaen 88 Girlais 86 Cambrian 83 Ferndale 82 Dyma ddechrau ar record anhygoel o gystadlu mewn Eisteddfodau. Ddydd Sadwrn, 27 Hydref, bu cyflawniad mawr arall; rownd derfynol Cystadleuaeth Bragwyr Cymru yn Neuadd Goffa Y Barri. Beirniaid - Haydn James Lyndon Hugh Canlyniad - Côr Safle Gwobr Dunvant 1af £1,000 Gwalia 2il £500 - IE £500 Blaenavon 3ydd £250 Dinbych-y-pysgod ) Pontypridd ) dim safle Glyn-nedd ) Rhaglen Gwalia Song of the Jolly Roger Y Deryn Pur Kalinka (unawdydd: Vernon Simons) Domine Non Sum Dignus Yellow Bird (with Rhythm Section & Sock) Comrades in Arms Am yr ail flwyddyn yn olynol ni oedd y côr lleiaf o bell ffordd yn y gystadleuaeth ond erbyn hyn roedd y ddau feirniad a’r corau eraill yn gwybod bod Cantorion Gwalia, Abertawe wedi cyrraedd, ac yn un o’r goreuon bellach. Yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar 7 Chwefror daeth cyfnod Phil Gettoes fel Cadeirydd i ben wedi dwy flynedd ond fe’i hail-etholwyd am ddwy flynedd bellach yn unfrydol. Penderfynwyd ychwanegu dau aelod o’r côr at y pwyllgor. Cynigwyd pedwar enw ac etholwyd Roy Thomas a Brian Lloyd wedi pleidlais agos. Hefyd penderfynom ystyried cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol, i’w chynnal yn Nhregŵyr ym 1980. Cynhaliwyd Cyfarfod Cyffredinol Arbennig ar 3 Hydref oherwydd wedi wyth mis cyfan ymddiswyddodd Brian Lloyd o’r pwyllgor. Etholwyd Marshal Clement yn ei le. Presenoldeb uchaf 1979 - Hugh Jones - 100% Tony Wright - 100% Roger Francis - 97% Mal Herbert - 97% Viv Williams - 97%
|