Cantorion Gwalia (Abertawe)

Cymraeg

 

English

 

1960au

1970au

1980au

1990au

2000au

 

 

 

 

Degawd flaenorol: yr 1970au

 

1980

Adroddiad yn yr Evening Post, dydd Mawrth, 12 Ebrill:

 

"Côr yn cyflawni llwyddiant triphlyg

Enillodd CANTORION GWALIA, côr meibion o Abertawe, dair buddugoliaeth yn yr Eisteddfod yn Nhregŵyr ar y penwythnos.

Y fuddugoliaeth yn y gystadleuaeth i gorau heb fod yn fwy na 40 mewn nifer yw’r ddiweddaraf yn stori llwyddiant y côr, sydd ond wedi bod yn cystadlu ers y llynedd.

Dywedodd Mr Cliff Prosser, Swyddog y Wasg y côr: "Dim ond yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yr ydym wedi dechrau cystadlu.  Rydym wedi bod yn canu ers 14 mlynedd, gan fynychu digwyddiadau elusen yn bennaf.

"Ond roeddem ni eisiau ehangu’n gorwelion a cheisio cystadleuaeth Côr y Flwyddyn Bragwyr Cymru y llynedd, gan ddod yn ail i Ddynfant."

Felly wedi 13 mlynedd cafwyd llwyddiant o’r diwedd ac maent wedi mynd o nerth i nerth ers hynny, yn fuddugol yn Eisteddfodau Pont-rhyd-y-fen a Rhymney.

Siec am £10 a chwpan arian oedd y gwobrau am eu hymdrechion yn Nhregŵyr, ond y fraint o ennill yr Eisteddfod Genedlaethol oed dy peth pwysicaf i’r côr.

"O ran bri dyma’r gorau i’w hennill," dywedodd Mr Prosser.  "Does dim dwywaith amdani."

Yr eitemau a blesiodd y beirniaid cymaint oedd Dilys Wamal, wedi’i threfnu gan Eric H. Thiman, ac Arglwydd Da, cyfansoddiad o’r unfed ganrif ar bymtheg gan Thomas Luis De Victoria.

Mr Bryan Miles arweiniodd Gantorion Gwalia at fuddugoliaeth gyda Miss Beverley Sanders yn cyfeilio.

Sgoriodd Gantorion Gwalia 86 o bwyntiau, dau o flaen Côr Llandybie â Chôr Rhos, Cwmtawe, yn drydydd gydag 81 o bwyntiau."

 

 

1981

Eleni teithiodd y côr dramor am y tro cyntaf.  Cynhaliwyd yr ymweliad â Mannheim, Yr Almaen (un o drefi gefell Abertawe), gan y Facco-Chor rhwng 14 ac 20 Hydref.

Toriad o’r Western Mail, 13 Hydref

Aelodau o’r côr, teuluoedd a ffrindiau yn ymweld â Heidelberg

 

 

1982

 

1985

Y côr yn Coombe Cheshire Home

 

1986

Perfformio mewn priodas yng gwesty Dorchester, Llundain

 

1987

Toriad o’r South Wales Evening Post, dydd Iau, 29 Hydref

Cyngerdd i Ddathlu Pen-blwydd y Côr yn 21 yng Nghapel Bethlehem, Cadle

Cynhaliwyd y Gyngerdd i Ddathlu Pen-blwydd y Côr yn 21 yng Nghapel Bethlehem yn Fforestfach, Abertawe, ar nos Sadwrn, 31 Hydref.  Y cantorion gwadd ar gyfer y gyngerdd oedd Rebecca Evans (soprano) a Nigel Hopkins (bariton).

 

1989

Ymweliad arall â Gŵyl Flodau Shobdon

 

Degawd nesaf: yr 1990au

 

 

1960au

1970au

1980au

1990au

2000au