Cantorion Gwalia (Abertawe)

Cymraeg

 

English

 

1960au

1970au

1980au

1990au

2000au

 

 

 

 

1963-1968

 

Ffurfiwyd cymdeithas operatig ym 1963 yn Eglwys St. Jude yn Mount Pleasant, Abertawe, i berfformio gweithiau Gilbert a Sullivan.  Ym 1965, dathlodd yr eglwys ei phen-blwydd yn 50 a dysgodd dynion y gymdeithas ychydig eitemau i’w canu yn ystod wythnos o ddathliadau.  Roedd y rhain yn cynnwys caneuon megis Myfanwy gan Joseph Parry ac All in the April Evening.  Yn fuan wedi hynny fe dorrodd y gymdeithas operatig, ond ceisiodd 14 o’r aelodau ailffurfio gyda’r bwriad o ymarfer yn neuadd yr eglwys Gatholig ar Heol Sgeti.  Nid oedd yn llwyddiannus.  Fodd bynnag, heb eu digalonni, cyfarfu’r 14 o hoelion wyth yn The Mountain Dew, tafarn yn Mount Pleasant, a phenderfynu dysgu caneuon eraill a dod yn gôr sefydlog. Lluniwyd cyfansoddiad a ganwyd Cantorion Gwalia.

 

Dechreuodd yr ymarferion yng nghartref un o’r aelodau.  Y Cyfarwyddwr Cerddorol oedd Bryan Myles a’r cyfeilydd oedd Mrs Elizabeth Davies. Cynhaliwyd y Gyngerdd Flynyddol gyntaf mewn capel yn Waunarlwydd.

 

1969

Fis Hydref 1987, cofiodd Bryan Myles y canlynol yn rhan 2 ei hanes o’r côr:

“Roedd y côr yn awr yn dod yn fwy prysur drwy’r amser mae ond 18 o aelodau yr oeddem o hyd.  Fis Mai cymeron ran mewn cyngerdd yn Nhregŵyr i ddathlu Croeso ’69.  Gofynnwyd ynghynt i mi arwain côr cymysg a ffurfiwyd yn arbennig ar gyfer blwyddyn arwisgo Tywysog Cymru a pherfformiom gyngerdd cyfunol fel rhan o’r dathliadau.

Fis Mehefin ymgymerodd y côr â menter newydd sbon.  Cystadlom, â chryn anesmwythder, mewn cystadleuaeth dalent yng Nghlwb y Trefwyr, Abertawe.  Buom yn hynod lwyddiannus ac mewn tri mis enillom wobrau gwerth £100.  Roedd hwn yn ffortiwn bryd hynny ac roedd yn ddigon i dalu am y rhan fwyaf o’r swm helaeth o arian yr oeddem ar fin ei wario ar ein hiwnifformau cyntaf.

Ar 29 Gorffennaf perfformiom ein cyngerdd math “cynhadledd” gyntaf yn Nhŷ’r Coleg.  Dyma ddechrau cydgysylltiad hir a pharhaus gyda threfnwyr y gynhadledd.  Fel y bydd y rhan fwyaf ohonoch yn gwybod, mae’r math hwn o ymrwymiad wedi bod yn ffrwythlon yn ariannol ac yn bleserus dros ben dros y blynyddoedd.

Fis Hydref roedd y côr mewn safle i brynu ei iwnifform lawn gyntaf.  Prynwyd blaseri Glas Barathea a throwsusau llwyd i 18 o bobl am gost o ychydig dros £200.  Prynwyd y blaseri, o safon wych, o hen gwmni J.H. Dean, Abertawe, am £8-7-6c yr un.  Roedd yn foment balch i’r côr pan ymddangosant yn eu cyngerdd nesaf yn gwisgo “dillad côr go iawn”.  Mae’n eironig, wrth i mi ysgrifennu, ein bod ar fin newid y blaseri hyn wedi’r holl amser yma.

Fis Rhagfyr cynhaliwyd y gyngerdd “carolau” gyntaf ar gyfer pensiynwyr Caereithin.  Mwynhasant yn faw iawn ac mae digwyddiadau fel hyn yn sicr werth yr holl waith caled.  Roedd y math hwn o gyngerdd i ddod yn nodwedd o ddyddiadur blynyddol y côr.  Ar 20 Rhagfyr cynhaliwyd y gyngerdd gyntaf o’r fath yng Nghlwb Gwasanaeth Sifil ac ers hynny rydym wedi cynnal 18 cyngerdd o’r fath.

Degawd nesaf: yr 1970au

 

 

1960au

1970au

1980au

1990au

2000au