Cantorion Gwalia (Abertawe)
|
|
|

Ffotograffiaeth gan 'Always & Forever Photography' 01554 820014
|
|
Croeso i wefan Cantorion Gwalia, Abertawe. Gobeithiwn yn byddwch yn mwynhau’ch ymweliad. Os oes gennych chi unrhyw gais neu awgrymiadau, cysylltwch â’r gwefeistr. Peidiwch ag anghofio rhoi sylw ar y llyfr gwesteion!
Côr Meibion Cymreig a ffurfiwyd ym 1966 ydym ni. Enillodd Cantorion Gwalia enw da yn gyflym fel côr bach a llwyddiannus ag ymdeimlad cryf o 'berthyn'. Er bod rhai newidiadau mawr wedi bod i amgylchiadau’r côr dros y blynyddoedd, mae’r hanfodion yn dal i fod. Rydym ni’n gôr bach o hyd, gyda thua 45 o aelodau. Rydym ni’n parhau i ddenu aelodau o amrywiaeth o gefndiroedd ac ardaloedd, yn parhau i lwyddo mewn cystadlaethau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, a chredwn o hyd bod gan Gwalia dair prif flaenoriaeth mewn bywyd - ei deulu, ei waith, a’r côr (yn y drefn honno).
Ymarferion Mae’r côr yn ymarfer bob nos Fawrth am 7.15pm yng Nghlwb Hwylio a Sub Aqua Abertawe ym Marina Abertawe (map). Mae croeso i chi alw heibio! Er ein bod yn canu rhai caneuon Cymraeg (yn ogystal ag ychydig ieithoedd eraill), mae’r mwyafrif yn Saesneg. Mae croeso i bawb o bob oedran a gallu i ddod i wrando a/neu ymuno, yn enwedig os rydych yn mwynhau canu cymaint ag yr ydym ni!
Pam "Gwalia"? Cymru yw un o’r pedwar gwald yn Nheyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon. Er mai tywysogaeth ydyw yn swyddogol (y dywysogaeth fwyaf yn y byd), mae ganddi’i hiaith ei hun (Cymraeg) a, ers 1955, prifddinas (Caerdydd). Daw’r gair "Wales" o luosog yr hen air Saesneg wealh, a’i ystyr yn llythrennol yw "tramorwyr". Mae ffurfiau Lladin o "Wales" yn cynnwys Wallia a Gwalia.
Abertawe Credir i Abertawe gael ei sefydlu gan Frenin Llychlynnaidd Denmarc, Sweyn Forkbeard, a orchfygodd yr Eingl-Sacsoniaid ym 1013. Mae’r enw Swansea siŵr o fod yn dod o gyfuniad o Sweyn, "Sven", a hen air Norseg am cilfach, "sey". Yr enw Cymraeg ar y ddinas yw Abertawe sy’n golygu "aber yr afon Tawe". Abertawe yw ail ddinas fwyaf Cymru. Mae’n agos at arfordir hardd y Gŵyr a thua 30 milltir o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a’r Mynydd Du. Ar wahân i fod yn gartref Cantorion Gwalia, mae hefyd yn nodedig fel man geni Dylan Thomas a Catherine Zeta Jones.
Wyddech chi... Un o’r caneuon mwyaf poblogaidd bob Nadolig yn UDA yw ‘Stop The Cavalry'. Fodd bynnag, nid fersiwn Jona Lewie y gwneir cais amdano, yr un yr ydych chi fwyaf tebygol o fod yn gyfarwydd ag ef. Mewn gwirionedd, y fersiwn a recordiwyd tua blwyddyn yn ddiweddarach gan y Cory Band gyda Chantorion Gwalia. Mae’n ddigon posib mae hwn yw’r gân fwyaf poblogaidd erioed gan artist sydd erioed wedi cael record yn y siartiau – sengl, albwm na fel arall. Cliciwch yma i wrando arno. Yn anffodus does gennym ni ddim copïau ar werth, ond gellir prynu CDs ar www.silverplatters.com ac mae ar gael i’w lawrlwytho oddi ar iTunes.
|